http://www.odgersberndtson.co.uk/
![]()
"Mae'r economi yng Nghymru wedi newid gryn dipyn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r sector cyhoeddus yn parhau i chwarae rôl bwysig iawn gyda mwy o bwyslais ar ddarparu gwasanaethau o safon sy'n canolbwyntio ar ddinasyddion. Mae'r sector preifat wedi trawsnewid o'i sail ddiwydiannol draddodiadol i un sy'n nodweddiadol gan dechnoleg a gwasanaethau ariannol a phroffesiynol. Mae Cymru wedi croesawu mewnfuddsoddwyr sylweddol o Ewrop, America, a'r Dwyrain Pell yn y sectorau electroneg, ynni gwyrdd a gweithgynhyrchu. Mae'r wlad hefyd yn parhau i fanteisio ar ei hamgylchedd naturiol drwy ei diwydiannau twristiaeth a bwyd-amaeth sy'n tyfu.
Bu llawer o gynnydd o ran adfywio ardaloedd ôl-ddiwydiannol a hyrwyddo datblygiad economi ar sail gwybodaeth. Mae'n hawdd anghofio'r trawsnewidiad mawr hwn yn ystod yr hinsawdd economaidd bresennol, yn yr un modd ag y mae'n hawdd anghofio'r camau a wnaed ar ôl datganoli i hyrwyddo Cymru ar lwyfan y DU, Ewrop a'r byd fel gwlad economaidd gyffrous gydag ymdeimlad cryf o hunaniaeth genedlaethol. Mae'n bwysicach nag erioed bod Cymru yn sicrhau'r dalent orau sydd ar gael yn lleol ond hefyd ei bod yn gwneud hynny o'r DU gyfan a thramor os yw am ffynnu yn y dyfodol.
Odgers Berndtson yw'r unig gwmni chwilio gweithredol 'o'r radd flaenaf' sydd â thîm cynhwysfawr o Ymgynghorwyr, Ymchwilwyr a Staff Cymorth yng Nghymru, gan ddod â gwybodaeth a phrofiad cadarn am y farchnad yng Nghymru a'i hanghenion penodol. Mae ein cwmni Chwilio Gweithredol wedi'i restru'n gyntaf yn y DU, yn ail yn Ewrop ac yn chweched yn y byd.
Ar gyfer pob aseiniad, mae ein tîm yng Nghymru yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr cenedlaethol (200 o Ymgynghorwyr a 50 o Ymchwilwyr mewn 8 swyddfa yn y DU) i sicrhau bod y timau gorau o Gymru a'n sector tra arbenigol a'n cydweithwyr gweithredol cenedlaethol yn denu ymgeiswyr sy'n perfformio'n dda yn lleol ac o'r DU gyfan (neu'n rhyngwladol drwy ein 35 o swyddfeydd) yn ôl yr angen.
Yn y modd hwn, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chleientiaid i gyfrannu at greu economi fywiog sy'n ffynnu yng Nghymru.



Cofrestrwch nawr