Mae Drake AV yn gwmni wedi'i leoli yng Nghaerdydd gyda swyddfa gwerthu a gosod yn Wolverhampton. Rydym yn arbenigo mewn gwneud systemau clyweledol i weithio gyda'i gilydd fel y mynnwch. Ymhlith ein cleientiaid presennol mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, S4C ac UWIC. Ymhlith ein brandiau mae AMX, Bose, Crestron, Denon, Lifesize, Polycom, Sanyo a Sony.
Ers sefydlu Drake Audio-Visual ym 1971 mae'n parhau i arwain y blaen o ran defnyddio technoleg gyfoes. Rydym yn cynnig amrywiaeth lawn o wasanaethau clyweledol o'n swyddfa yng Nghaerdydd a Chanolbarth Lloegr:
- Dylunio systemau clyweledol, llogi systemau, gosod a gwerthu
- Systemau cynadledda fideo
- Systemau rheoli clyweledol a raglennir
- Dolenni sain er mwyn cydymffurfio â'r ddeddf anabledd
- Cyfieithu isgoch clywedol a'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd
- Cynhyrchu deunydd fideo corfforaethol
- Atgyweirio a chynnal a chadw offer



Cofrestrwch nawr