
CEO Pearson PLC
Wedi'i geni yn Flagstaff, Arizona, a'i magu yn Tecsas, graddiodd Marjorie o Brifysgol Baylor, Tecsas a chafodd radd yn y gyfraith yn ddiweddarach ym Mhrifysgol San Francisco.
Bu'n bartner i gwmni cyfreithiol yn Savannah, Georgia, a chyda ei gwr, Albert Scardino, sefydlodd a chyhoeddodd Marjorie bapur newydd The Georgia Gazette, a enillodd wobr Pulitzer.
Cyn dod yn Brif Swyddog Gweithredol Pearson, bu Marjorie yn brif weithredwr The Economist, y mae Pearson yn meddu ar gyfran o 50% ohono, ar ôl bod yn brif weithredwr is-adran Gogledd America o'r Economist.
Mae Marjorie yn gyfarwyddwr anweithredol o Nokia Corporation ac yn aelod o nifer o fyrddau elusennol a chynghorol, gan gynnwys Sefydliad MacArthur, Canolfan Carter, Oxfam ac Amgueddfa Victoria ac Albert.
Cliciwch yma i archebu bwrdd yn Nigwyddiad nesaf Clwb Busnes Caerdydd.
Gweld pob digwyddiad