
Deputy Leader the Liberal Democrats
Graddiodd Vincent Cable o Brifysgol Caergrawnt, lle y bu'n Llywydd yr Undeb, ac yna astudiodd am PhD ym Mhrifysgol Glasgow. Mae wedi cael gyrfa amrywiol sy'n cynnwys amser yn gweithio i'r Swyddfa Dramor, Ty Chatham ac fel Prif Economegydd Shell. Etholwyd Vincent Cable i'r Senedd am y tro cyntaf i gynrychioli Twickenham ym 1997. Mae wedi bod yn Ganghellor yr Wrthblaid i'r Democratiaid Rhyddfrydol ers mis Tachwedd 2003 ac ar hyn o bryd mae'n Ddirprwy Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol. Mae wedi cyhoeddi sawl llyfr ac adroddiad ar faterion economeg ryngwladol, masnach a materion amgylcheddol.
Cliciwch yma i archebu bwrdd yn Nigwyddiad nesaf Clwb Busnes Caerdydd.
Gweld pob digwyddiad