
Chief Medical Advisor to the Government
Mae Syr Liam Donaldson wedi bod yn Brif Swyddog Meddygol Lloegr a Phrif Gynghorydd Meddygol y DU ers 1998. Ef yw dim ond y pymthegfed unigolyn i feddu ar y swydd bwysig a hanesyddol hon ers iddi gael ei sefydlu ym 1855.
Ers dod i'r swydd, mae Syr Liam wedi ysgrifennu cyfres o adroddiadau arloesol sydd â'r nod o drawsnewid amrywiaeth eang o feysydd iechyd, gofal iechyd a'r gwyddorau meddygol, er enghraifft: llunio strategaeth diogelu iechyd cynhwysfawr cyntaf y wlad; cynnig deddfwriaeth newydd i alluogi ymchwil bôn-gelloedd a gaiff ei rheoleiddio'n ofalus; mynd i'r afael â pherfformiad clinigol gwael; cyflwyno rhaglen gynhwysfawr ar gyfer diogelwch cleifion a grymuso cleifion i hunanreoli clefyd cronig.
Mae'n debyg bod Syr Liam yn fwyaf adnabyddus am dri o'i gyflawniadau. Yn gyntaf, ei adroddiadau blynyddol arloesol, sydd wedi dwyn sylw'r cyhoedd at bryderon iechyd difrifol, yn arbennig yr angen am ardaloedd cyhoeddus di-fwg, y cwmwl du gordewdra, a'r problemau sy'n ymwneud â goryfed mewn pyliau.
Yn ail, creu'r cysyniad o lywodraethu clinigol - ffordd glinigol o arwain i sicrhau safon gofal uchel - sydd bellach yn ddull cydnabyddedig rhyngwladol ym maes gofal iechyd.
Yn drydydd, arwain diogelwch cleifion fel blaenoriaeth ar gyfer systemau gofal iechyd dros y byd. Gwnaeth ei adroddiad An organisation with a memory lunio polisïau ar ddiogelwch cleifion yn y Deyrnas Unedig ac mae ei gadeiryddiaeth o Gynghrair Byd-eang Diogelwch Cleifion Sefydliad Iechyd y Byd wedi golygu bod gweithredu ar raddfa byd-eang.
Mae Syr Liam wedi cael anrhydeddau a gwobrau gan lawer o gyrff cyhoeddus. Mae ei waith ysgrifenedig ac ymchwil ar iechyd a phynciau gofal iechyd yn helaeth iawn. Mae wedi bod yn brif siaradwr mewn llawer o gynadleddau ac yn ddarlledwr a chyfathrebwr cyhoeddus profiadol.
Cliciwch yma i archebu bwrdd yn Nigwyddiad nesaf Clwb Busnes Caerdydd.
Gweld pob digwyddiad