
Ysgrifennydd: Alun Davies
Ganwyd Alun yng Nghaerdydd ac fe'i addysgwyd yn Ysgol y Brenin, Caergaint. Aeth i Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst ac fe'i comisiynwyd i Gatrawd Frenhinol Cymru. Gwasanaethodd yng Nghanolbarth America, Hong Kong a'r Dwyrain Canol, gan dreulio'r rhan fwyaf o'r Rhyfel Oer ym Merlin.
Ar ôl gadael y Fyddin, daeth yn un o gyfarwyddwyr RACE Electronics. Ym 1995, fe'i penodwyd yn Rheolwr Gyfarwyddwr Grosvenor Waterside, cwmni datblygu eiddo ym Mae Caerdydd lle roedd yn gyfrifol am ddatblygu ystad proffil uchel y glannau.
Yn 2000, daeth yn un o Gyfarwyddwyr Cwmni Dociau Aberdaugleddau ac ers hynny mae wedi cael amrywiaeth o swyddi Cyfarwyddwr Anweithredol yn Ne Cymru a Gorllewin Cymru, yn ymwneud ag eiddo, cysylltiadau cyhoeddus, technoleg gwybodaeth, diogelwch, a chyflenwi ynni.
Mae'n cyn Gadeirydd Partneriaeth Busnes Rhondda Cynon Taf, ac yn gyn Lywydd y Clwb Sgïo Alpaidd. Gwnaeth ymddeol fel Cadeirydd Ballet Russe yn ddiweddar, sef yr unig gwmni bale clasurol yng Nghymru. Mae'n parhau i fod yn Ysgrifennydd Anrhydeddus Clwb Busnes Caerdydd, sef y prif fforwm o'i fath yng Nghymru. Yn 2007, penodwyd Alun yn Gadeirydd Cysylltiadau Busnes Ceidwadol Cymru. Mae'n fynyddwr a sgïwr brwdfrydig, ac mae diddordeb brwd ganddo o hyd mewn bale clasurol.

Raj Aggarwal, OBE
Director
Alun Davies
Secretary
Alison Hoy
Director
Laurence James
Membership Secretary
Stephen Jones
Director
Harry Lewis
Treasurer
Huw Morgan
Director
David Myrddin-Evans
Director
Jackie Quantock
Director
Robert Shepherd
Director
Roy J Thomas
Director
Alan Whiteley
Hon Solicitor
Huw Evans
Assistant Treasurer
Kathryn Williams
Club Co-ordinator
Alan Edmunds
Director
Cliciwch yma i archebu bwrdd yn Nigwyddiad nesaf Clwb Busnes Caerdydd.
Gweld pob digwyddiad